TEITL |
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Lloegr) a Rheolaethau Swyddogol (Amlder Gwiriadau) (Diwygio) 2024 |
DYDDIAD |
05 Mawrth 2024 |
GAN |
Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd |
|
|
Bydd Aelodau o'r Senedd yn dymuno cael gwybod ein bod yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.
Gofynnodd Rebecca Pow AS am gydsyniad ar ran yr Arglwydd Benyon, y Gweinidog Bioddiogelwch, Materion Morol a Gwledig, ac yna'r Arglwydd Douglas-Miller, y Gweinidog Bioddiogelwch, Iechyd a Lles Anifeiliaid yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Lloegr) a Rheolaethau Swyddogol (Amlder Gwiriadau) (Diwygio) 2024.
Bydd yr OS uchod yn cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy arfer y pwerau sy'n cael eu rhoi o dan Reoliad (UE) 2017/625.
Mae'r Rheoliadau'n ehangu OS 2022/739. Byddant hefyd yn diwygio Atodiad 6 o'r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol er mwyn sicrhau bod y 'gyfradd amlder briodol' ar gyfer nwyddau risg ganolig o'r UE, Liechtenstein a'r Swistir yn cael ei phennu gan Erthygl 53.
Cafodd yr OS ei osod gerbron Senedd y DU ar 04 Mawrth 2024. Bydd y Rheoliadau'n dod i rym ar 30 Ebrill 2024.
Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru
Bydd yr Aelodau yn dymuno nodi nad yw'r Rheoliadau'n trosglwyddo unrhyw swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol.
Diben y diwygiadau
Dim ond darpariaethau penodol yn Rhan 3 o'r Rheoliadau yr wyf wedi rhoi cydsyniad ar eu cyfer. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y darpariaethau eraill yn y Rheoliadau ar gyfer Cymru yn unig drwy Reoliadau Iechyd Planhigion etc (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024.
Ar 30 Ebrill 2024, o dan Fodel Model Gweithredu Targed y Ffin, bydd gwiriadau mewnforio ar sail risg yn cael eu cynnal mewn Safleoedd Rheolaethau'r Ffin ar blanhigion ac ar gynhyrchion planhigion risg ganolig a fydd yn cael eu mewnforio o'r UE, Liechtenstein a'r Swistir Yn ogystal, bydd gwiriadau ar y dogfennau sy'n gysylltiedig â'r nwyddau hynny yn cael eu cynnal yn llai aml fel eu bod yn cyd-fynd â pha mor aml y bydd gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol yn cael eu cynnal. Yn unol â Model Gweithredu Targed y Ffin, ni fydd y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno mewn "porthladdoedd perthnasol" ar Arfordir y Gorllewin, gan gynnwys Abergwaun, Caergybi a Phenfro, tan 31 Hydref fan cynharaf.
Mae'r Rheoliadau'n ehangu OS 2022/739 er mwyn cynnwys y nwyddau risg ganolig o'r UE, Liechtenstein a'r Swistir yn y fframwaith a geir yn yr Offeryn hwnnw ar gyfer pennu pa mor aml y cynhelir gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod. Byddant yn diwygio Atodiad 6 o'r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol i sicrhau bod y 'gyfradd amlder briodol' ar gyfer nwyddau risg ganolig o'r UE, Liechtenstein a'r Swistir yn cael ei phennu gan Erthygl 53.
Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n rhoi'r manylion am darddiad, diben ac effaith y diwygiadau, ar gael yma:
Pam y rhoddwyd cydsyniad
Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud yr offeryn hwn mewn perthynas â Chymru, ac ar ei rhan, gan fod yr OS yn ymwneud â maes datganoledig, ond, mae'r OS yn gweithredu ar draws Prydain Fawr ac yn cael effaith ar y cyfyngiadau ar fewnforio planhigion a chynhyrchion planhigion i Brydain Fawr. Gallai cyflwyno rheoliadau ar wahân yng Nghymru a Lloegr greu baich ychwanegol ar yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), ac ar fusnesau, masnachwyr a thyfwyr. Mae rheoleiddio ar lefel Prydain Fawr yn sicrhau bod y llyfr statud yn gydlynol ac yn gyson, a bod y rheoliadau ar gael mewn un offeryn heb unrhyw risg o wahaniaethau yn neddfwriaeth Prydain Fawr.